Cyfarfod y Grŵp Trawsbleidiol ar Hawliau Defnyddwyr

6 Chwefror 2023 - Cynhaliwyd trwy Meet

Yn bresennol

 

Sioned Williams (SW)

Aelod o'r Senedd

Luke Young (LY)

Cyngor ar Bopeth Cymru

Tim Mouncer (TM)

WHICH?

Sophie Beesley (SB)

WHICH?

Maggie Kinsey (MK)

Safonau Masnach Cymru

Sian Phipps (SP)

Panel Defnyddwyr Cyfathrebu

David Beer (DB)

Transport Focus

Jessica Tye (JT)

Awdurdod Safonau Hysbysebu

Rhodri Williams (RW)

Y Cyngor Defnyddwyr Dŵr

Lia Moutseloun(LM)

Y Cyngor Defnyddwyr Dŵr

Amy Dutton (AD)

Cyngor ar Bopeth Cymru

Lindsey Kearton (LK)

Cyngor ar Bopeth Cymru

Alun Evans (AE)

Cyngor ar Bopeth Cymru

 

Cyflwyniad gan WHICH?

Cafwyd trafodaeth ar ôl y cyflwyniad wnaeth ganolbwyntio ar yr angen i gyflenwyr a llywodraethau/rheoleiddwyr wella’r broses o ymgysylltu i helpu unigolion a defnyddwyr i wybod yn well pa gefnogaeth sydd ar gael iddynt a sut i gael mynediad at y gefnogaeth a'r wybodaeth honno. 

Cyflwynodd LM drafodaeth bellach ar sut y gallwn rannu a throshaenu data a gedwir ar ddefnyddwyr yng Nghymru yn well i fod yn fwy ataliol yn ein gweithredoedd i gefnogi defnyddwyr ac aelwydydd.

 

Trafododd LY y dangosfwrdd data diweddaraf gan Cyngor ar Bopeth Cymru

Linc i’r fersiwn Saesneg: bit.ly/CoLinreview2022

Linc i’r fersiwn Gymraeg:bit.ly/cipolwgar2022

 

Yn y drafodaeth ar gyflwyniad LY ystyriwyd yr angen ac anfantais sydd eisoes yn bodoli i ddefnyddwyr ledled Cymru ac a fydd yn debygol o barhau yn y dyfodol agos. Mae pwyntiau penodol ynghylch gwerth mesuryddion fel modd o  reoli cyflenwadau cyfleustodau yn mynd ar goll yn y modd y cânt eu rheoli gan gyflenwyr ar hyn o bryd. Tynnodd LM sylw at y ffaith fod mesuryddion dŵr yn aml yn opsiwn rhatach i gartrefi sy’n defnyddio lefelau isel o ddŵr yn hytrach na’u bod heb fesurydd. 

 

Cyflwynodd RW y gwaith y mae’r Cyngor Defnyddwyr Dŵr yn galw amdano ynghylch tariffau cymdeithasol sengl a sut gyda beth sy’n ymddangos fel  amharodrwydd gan DEFRA i barhau i ymrwymo i hyn y gallai defnyddwyr dŵr yng Nghymru weld colled bosibl o £1.5 miliwn ychwanegol.  

 

Y camau nesaf

Y grŵp i ystyried holi cwestiwn i Lywodraeth Cymru ynglŷn â pha waith sy'n cael ei wneud i hyrwyddo tariffau cymdeithasol i ddefnyddwyr yng Nghymru gan gynnwys sgyrsiau gyda chwmnïau a llwybrau gwybodaeth ac ymgysylltu’r llywodraeth.

I ystyried pa waith gallai'r grŵp ei wneud i dynnu sylw at yr argymhellion sy’n codi o ganfyddiadau WHICH? ar brisio mewn archfarchnadoedd – ystyried bod y grŵp yn codi hyn gyda’r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol a chyflwyno canfyddiadau'r ymchwil i is-bwyllgor y Cabinet ar gostau byw.